Cartref > Newyddion > Theratr Hafren 01/03/25

Teithiodd y côr i'r Amwythig ar y 1af o Fawrth, 2025 i gymryd rhan mewn cyngerdd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Trefnwyd y cyngerdd gan Gymdeithas Corau Meibion Gogledd Cymru ac yn ogystal â Hogia’r Ddwylan roedd y Côr Meibion Orthopedig, y pianydd a’r cyfeilydd o fri Teleri-Sian a’r soprano ifanc hynod dalentog Branwen Medi Jones. Cyflwynwyd y noson gan y cyflwynydd adnabyddus Dilwyn Price.
Iwan Wyn Williams oedd ein harweinydd am y noson a chan nad oedd ein cyfeilydd arferol Elis ar gael oherwydd ei ymrwymiadau prifysgol ein cyfeilydd oedd Meurig Thomas, pianydd galluog a phrofiadol.
Roedd cynulleidfa fawr iawn ar y noson a fu’n cymeradwyo’n gynnes drwy gydol y cyngerdd a chodwyd llawer o arian i gefnogi Samariaid yr Amwythig, elusen bwysig a haeddiannol iawn.