Cartref > Ymunwch a Ni
Nawr eich bod wedi darganfod ein gwefan, mi welwch fod Hogia’r Ddwylan wedi canu mewn nifer o leoliadau ar draws Cymru, Prydain a thu hwnt. Yn ogystal a’r canu, mae’r Hogiau’n cael lot fawr o hwyl!
Fel pob côr, rydym bob amser yn falch o groesawu aelodau newydd o unrhyw oedran.
Rydym yn ymarfer ar nôs Iau yng Nghapel Rhos y Gad, Llanfairpwll drwy’r flwyddyn, heblaw am wyliau ysgol.
Pam na ddowch chi draw i un o’r ymarferion i wrando, cael sgwrs efo ambell aelod neu efo Iwan, ein Cyfarwyddwr Cerdd? Mi fydd croeso cynnes yn eich disgwyl chi.
O ymaelodi, byddwch yn elwa nid yn unig o’r profiad o ganu gyda côr mewn lleoliadau anhygoel ond hefyd o gyfeillgarwch a brawdoliaeth heb ei ail. Mae canu’n dda i’r enaid ac i’r iechyd corfforol a meddyliol.
Dewch draw….welwn ni chi’n fuan!