Cyfeilydd y côr ers 2023 yw Elis Massarelli-Hughes. Daw Elis o bentref Carmel yn Nyffryn Nantlle a graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Cymraeg a Cherddoriaeth o Brifysgol Bangor, gan ennill Gwobr Goffa Gwyn Thomas yn yr Adran Gymraeg, ac mae bellach yn astudio tuag at radd M.A.
Mae Elis yn gyfeilydd prysur mewn eisteddfodau ledled Cymru ac mae hefyd yn perfformio'n rheolaidd fel pianydd ac organydd. Mae wedi chwarae’r organ mewn nifer o leoliadau nodedig, gan gynnwys Cadeirlan Lerpwl, Neuadd y Brangwyn ac Eglwys Bresbyteraidd y 5th Avenue yn Efrog Newydd.