Cartref > Amdanom > Cyfarwyddwyr Cerdd
Cyfarwyddwr cerdd y côr yw Iwan Wyn Williams. Yn wreiddiol o Lanberis, graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf mewn cerddoriaeth a Chymraeg, o Brifysgol Bangor. Cychwynnodd Iwan fel cyfeilydd i’r côr yn 2010 cyn ymgymryd a rôl yr arweinydd yn 2016. Bellach yn byw yn Llandwrog gyda’i wraig Catrin a’i ddwy ferch fach Elinor a Miriam, mae Iwan yn bennaeth cerdd Ysgol Glan y Môr, Pwllheli ac yn wyneb cyfarwydd fel beirniad, organydd ac arweinydd.