Cartref > Newyddion > Neuadd Llangoed 13/12/2024

Cawsom gyngerdd hyfryd yn Neuadd Bentref Llangoed i helpu codi arian ar gyfer cynnal yr adeilad hardd hwn. Mae’r Neuadd yn cael ei rhedeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr a wedi bod yn fan ymgynnull i bobl Llangoed a thu hwnt ers dros 115 o flynyddoedd, a mae o mor bwysig i’r pentref bychan hwn ac arfordir de ddwyrain Ynys Môn. Perfformiodd y côr ganeuon o'u repertoire yn ogystal ag ychydig o garolau Nadolig amserol a gorffen gydag Anthem Genedlaethol Cymru. Cyflwynwyd y noson gan Dr Endaf Ap Ieuan o adran y tenoriaid ac arweiniwyd y côr gan y Cyfarwyddwr Cerdd Iwan Wyn Williams a’r cyfeilydd oedd Elis Massarelli Hughes. Cafwyd unawdwyr penigamp ar y noson, Gwen Elin yn perfformio pedair cân hyfryd, Elis, cyfeilydd y côr yn chwarae trefniant ei hun o fedli caneuon Nadoligaidd ar yr allweddell, a Nel yn diddanu gyda’i chlocsio hyfryd a chael cyfeiliant ar yr allweddell gan ei brawd Owain. Mae’n saff dweud bod y gynulleidfa ar y noson wedi mwynhau pob agwedd o berfformiad pawb yn seiliedig ar y clapio a glywyd ar y noson. .