Cartref > Newyddion > Sant Ioan, Llandudno, 18/09/25

Ar gyfer ein cyngerdd cyntaf yn y tymor newydd, roedden ni’n ôl yn Eglwys hyfryd Sant Ioan yn Llandudno ac roedd hi’n wych gweld cynulleidfa fawr ac amrywiol yn aros i gael eu diddanu. Cawsom groestoriad eithaf eang o bobl yn mwynhau’r noson, o gyn belled â Chanada, Ewrop ac Ynysoedd Prydain, a chawsant eu diddanu gan Hogia’r Ddwylan yn ogystal â rhai unawdau gwych gan ein hunawdydd gwadd Gwen Elin ac ein cyfeilydd talentog Elis Massarelli Hughes ar Organ yr Eglwys. Y cyflwynydd ar y noson oedd Dr Endaf (Mr Cadeirydd), yr arweinydd oedd ein Cyfarwyddwr Cerdd Iwan Wyn Williams a’r cyfeiliant piano gan Elis Massarelli Hughes.