Cartref > Newyddion > Neuadd Henllys 26/06/2025

Cafwyd gyngerdd gwych arall yn yr hyfryd Neuadd Henllys ym Miwmares yn diddanu gwesteion HPB.
Roedd y stafell yn llawn fel bob amser ar noson gynnes ym mis Mehefin gyda chynulleidfa gwerthfawrogol iawn.
Gan fod Elis Massarelli ar wyliau, ein cyfeilydd ar y noson oedd dim llai na'n Cyfarwyddwr Cerdd ein hunain, Iwan Wyn Williams, a rhoddwyd ei faton arwain drosodd i Dr Endaf am y noson. Mae'n dda gwybod ein bod yn ddwylo diogel.
Cyflwynydd y cyngerdd ar y noson oedd Dewi Roberts a'r unawdydd oedd Gwen Elin yn plesio'r gynulleidfa yn arw gyda’i llais hyfryd.
Cyngerdd llwyddiannus arall.