Cartref > Newyddion > Neuadd Henllys 13/02/25

Cafwyd cyngerdd llwyddiannus iawn yn Neuadd Henllys, Biwmares ar y 13eg o Chwefror, 2025 gan ganu i holl aelodau’r HPB.
Roedd yr ystafell yn llawn dop ac roedd y gynulleidfa'n werthfawrogol iawn drwy'r nos, yn cymeradwyo'n wresog drwy'r amser ac yn diweddu gyda chymeradwyaeth sefyll ar y diwedd.
Iwan Wyn Williams ein cyfarwyddwr cerdd oedd yn arwain y côr, cyflwynwyd y cyngerdd gan Dafydd Picton Jones o adran y Baswyr a’r unawdydd ar y noson oedd neb llai na cyfeilydd ifanc dawnus ein hunain Elis Massarelli Hughes a ddiddanodd y gynulleidfa gyda dwy medli piano a drefnwyd ganddo ef ei hun.