Cartref > Newyddion > Hafan Cefni 19/12/2024
Ymwelodd y côr â Hafan Cefni yn Llangefni i ddiddanu’r trigolion gyda chanu carolau amserol ar yr wythnos cyn y Nadolig.
Ar bob cyfrif roedd y trigolion a’r cynorthwywyr i gyd wedi mwynhau’r canu gydag un yn dweud “Diwrnod bendigedig arall yn Hafan Cefni, ymweliad gan Siôn Corn, bwyd da a gwin cynnes ac yna Côr Hogia’r Ddwylan anhygoel”.
Arweiniwyd y côr gan y Cyfarwyddwr Cerdd Iwan Wyn Williams, cyfeiliant allweddellau gan Elis Massarelli Hughes a chyflwynwyd y noson gan Dafydd Picton Jones o adran y Bas.
Nadolig Llawen i bawb.