Cartref > Newyddion > Dydd Gwyl Dewi yn Garn

Fe gymerodd y Côr ran mewn cyngerdd i ddathlu Dydd Gwyl Dewi yn Neuadd Gardolbenmaen ar Nos Sul y 1af o Fawrth.
Yn cymryd rhan ar y noson oedd Dylan a Neil, Gwen Elin, Angharad Wyn Jones ac wrth gwrs Hogia'r Ddwylan. Ar noson wlyb roedd o'n galonogol gweld y neuadd mor llawn hefyd.
Arweinydd y noson gyfan oedd Nia Wyn gyda chymorth Karen, Marian a Kian yn gwneud yn siwr fod y noson yn rhedeg yn esmwyth. Cafwyd raffl, paned a chacen a chawl cennin cartref a gafodd ei baratoi gan Bethan Roberts, cogydd y pwyllgor.
Ar y noson arweinydd y côr oedd Iwan Williams a cawsom cyfeiliant ar y piano gan Angharad Wyn Jones gyda Dr Endaf yn cyflwyno.
Roedd y ganmoliaeth ar ddiwedd y noson yn destun fod pawb wedi wir mwynhau yr holl berfformiadau safonol.
Diolch o galon Neuadd Garn a gobeithio fyddwn yn ol yna yn o fuan.