Cartref > Newyddion > Capel Carmel, Moelfre 10/4/25

Bu'r côr yn canu yng Nghapel Carmel, Moelfre ar nos Iau y 10fed o Ebrill mewn cyngerdd elusennol gydag unrhyw arian a godwyd i fynd tuag at elusen teilwng iawn "Achub y Plant"
Ar y noson cafodd y gynulleidfa fwynhau caneuon gan Hogia’r Ddwylan a’r côr merched lleol anhygoel Côronwy yn ogystal â medli piano gan ein cyfeilydd dawnus Elis.
Yn anffodus nid oedd Iwan Wyn Williams ein Cyfarwyddwr Cerdd yn gallu bod gyda ni ar y noson oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'w reolaeth ond camodd Dr Endaf i'r bwlch unwaith eto fel arweinydd. Elis oedd ein cyfeilydd a chyflwynydd y noson oedd Aled Buckley.
Arweiniwyd Côronwy gan Gwen Elin a chyfeiliwyd hwy yn fedrus ar y piano gan Owain Huw Parry (ŵyr JP ac sydd hefyd yn cyfeilio i Hogia’r Ddwylan o bryd i’w gilydd). Braf gweld dau fachgen ifanc lleol yn cael y cyfle i gyfeilio fel hyn a dangos nad yw oedran yn golygu dim.
Gwych.
Cafwyd cynulleidfa iachus ar y noson yn cymeradwyo yn wresog drwy'r nos.